Richard S. John LL.B. (Southampton)
Cafodd Richard ei eni a’i fagu yn Aberystwyth, gan fynychu Ysgol Ramadeg Ardwyn ac Ysgol Gyfun Penglais lle bu’n brif fachgen yn ei flwyddyn olaf. Ym 1981, graddiodd yn y gyfraith o Brifysgol Southampton ac ar ôl pasio ei arholiadau gyfreithwyr, ymgymerodd ag erthyglau yn Chatham, Kent.
Daeth Richard yn gyfreithiwr ym mis Mehefin 1985 a dychwelodd i Aberystwyth fel cyfreithiwr gyda W A Bowen & Griffiths. Arhosodd gyda’r cwmni hwnnw ar ôl ei gyfuno â Morris Bates & Godwin ond yna ymunodd ag Alun Thomas yn 1987. Daethant yn bartneriaid yn 1989.
Mae cefndir cyfreithiol Richard mewn ymgyfreitha. Mae wedi cynrychioli cleientiaid mewn treialon troseddol a sifil, achosion teuluol a mewn cwestau. Roedd yn aelod o Gymdeithas Cyfreithwyr Anafiadau Personol ac roedd yn gyfreithiwr panel Gwasanaeth Erlyn y Goron. Penodwyd Richard yn ddirprwy farnwr dosbarth (sifil) yn 2019 ac fe’i hawdurdodwyd i glywed achosion teuluol yn 2021.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae Richard wedi ymgymryd â thrawsgludo preswyl a masnachol cymhleth ar gyfer unigolion a chwmnïau. Bu’n rhan o gynllun ailddatblygu harbwr Aberystwyth, datblygiad Tesco yng nghanol y dref a’r rhan fwyaf o’r datblygiadau tai diweddar yn yr ardal.
Mae Richard wedi bod yn llywodraethwr mewn sawl ysgol yn yr ardal gan gynnwys cadeirydd llywodraethwyr Ysgol Gyfun Penglais. Bu’n aelod o Gyngor Prifysgol Aberystwyth am 6 blynedd ac ar hyn o bryd mae’n ymddiriedolwr ar gyfer Hosbis yn y Cartref.
Prif ddiddordebau Richard yw cadw’n heini, chwarae pêl-droed a cherddoriaeth. Mae wedi ymddangos ar y teledu a’r radio yn trafod materion cyfreithiol ac wedi bod yn gyfarwyddwr cerddoriaeth ar gyfer nifer o ddarllediadau teledu a radio.