Eiddo a Datblygiad Masnachol
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae Alun Thomas a John wedi arwain y gad ar waith datblygu ac adfywio Aberystwyth a’r cyffiniau.
Ni sydd wedi bod yn gweithio ar ailddatblygu’r harbwr a’r rhan helaeth o ddatblygiadau preswyl a masnachol newydd ar ochr ddwyreiniol Aberystwyth. Ni sydd wedi bod yn gyfrifol hefyd am y gwaith cyfreithiol ar y mwyafrif o ystadau tai newydd Aberystwyth.
Mae datblygwyr yn ein dewis ni am ein harbenigedd yn y maes hwn o’r gyfraith ac am ein dealltwriaeth o anghenion datblygwyr. A, chan ein bod wedi creu’r dogfennau cyfreithiol ar gyfer y datblygiadau hyn, rydym mewn sefyllfa ddelfrydol i fynd i’r afael ag unrhyw waith dilynol i brynu neu werthu’r tai o fewn iddynt.
Mae’r bobl ganlynol yn gyfrifol am Eiddo a Datblygiad Masnachol: